Iesu mwyn fy Ngheidwad

Iesu mwyn, fy Ngheidwad
  Aros gyda mi;
Gwna fy nghalon aflan
  Heddiw'n deml i Ti.

    Iesu mwyn Waredwr,
      Geidwad dynol ryw;
    Bydd i mi'n Arweinydd,
      Bydd i mi yn Dduw.

Trig o'm mewn yn Frenin,
  Bydd i mi yn Ben;
Tywys fi trwy'r anial
  I Gaersalem wen.

Iesu, paid â'm gadael
  I'm gelynion cas;
I orchfygu rhwystrau
  Dyro im dy ras.

Arglwydd, gwna dy gartref
  Yma dan fy mron,
Dyna fydd fy nefoedd
 Ar y ddaear hon.
Y Parch. R Gwmryn Jones (Gwmryn), Mountain Ash.

Tôn [6565+6565]: Iesu mwyn fy Ngheidwad
    (Owen Williams, Eglwys Bach.)

Gentle Jesus, my Saviour
  Abide with me;
Make my unclean heart
  Today Thy temple.

    Jesus gentle Deliverer,
      Saviour of human kind;
    Be to me as Guide,
      Be to me as God.

Dwell within me as King,
  Be to me as Head;
Lead me through the desert
  To blessed Jerusalem.

Jesus, do not leave me
  To my detestable enemies;
To overcome obstacles
  Give me thy grace.

Lord, make thy home
  Here under my breast,
That will be my heaven
  On this earth.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~

🏠 Hafan Emynau Angelfire